Wythnos Genedlaethol Diogelu 2026
Theme: Lived Experience
9 – 13 Tachwedd 2026
Profiad Bywyd yw'r thema gyffredinol ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu 2026 ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r thema yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar brofiadau pobl a dysgu ohonynt, a sicrhau bod eu lleisiau yn helpu i lunio sut rydym yn deall risg, yn ymateb i niwed ac yn gwella arferion diogelu.
Drwy gydol yr wythnos, bydd ein rhaglen yn archwilio profiad bywyd o amrywiaeth o safbwyntiau, gan ddod â lleisiau plant a phobl ifanc, oedolion, goroeswyr, ymarferwyr a phartneriaid ynghyd. Bydd digwyddiadau yn ystyried sut y gall profiad ddyfnhau dealltwriaeth broffesiynol, herio rhagdybiaethau a helpu gwasanaethau i ymateb yn fwy effeithiol i'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfle i ddysgu am ddiogelu wrth droi’n oedolyn, deall profiad bywyd gan ddefnyddio adolygiadau ymarfer, gwrywdod cadarnhaol a misogynedd, cam-drin ariannol, cam-drin domestig a chyfrifoldebau diogelu, ochr yn ochr â gweithgarwch partneriaid lleol helaeth a chyfleoedd pwrpasol i blant a phobl ifanc rannu eu profiadau. Bydd yr wythnos hefyd yn cynnwys ein Cynhadledd Diogelu Rhanbarthol, â phwyslais penodol ar gam-drin rhywiol a niwed rhywiol trwy lens profiad bywyd.
Trwy gydol yr wythnos, rydym yn gwahodd ymarferwyr i wrando, i fyfyrio ac i ystyried un cwestiwn pwysig:
Beth all profiad bywyd ei ddysgu i ni am sut rydym yn diogelu pobl yn well?
Gweler rhaglen eleni yma.
Wythnos Genedlaethol Diogelu 2025
Arfer Diogelu Cadarnhaol
National Safeguarding Week 2025 focused on positive safeguarding practice, bringing together partners from across Mid and West Wales to explore learning and emerging safeguarding issues identified across the region.
Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024
Y Cymorth Cywir ar yr Amser Cywir
Archwiliodd Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024 bwysigrwydd darparu'r cymorth cywir ar yr amser cywir, gan dynnu ar themâu diogelu a'r dysgu a nodwyd drwy adolygiadau ymarfer plant ac oedolion ledled y rhanbarth.
Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023
Diogelu mewn Cymunedau Gwledig
Canolbwyntiodd Wythnos Genedlaethol Diogelu 2023 ar yr heriau a'r cyfleoedd unigryw sy'n wynebu cymunedau gwledig ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru o safbwynt diogelu.