Safonau a Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu ym maes Diogelu
- Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu ym maes Diogelu
- Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu ym maes Diogelu
E-ddysgu Diogelu Grŵp A - Hyfforddiant Diogelu Sylfaenol Rhad ac Am Ddim i Bawb
Mae'r pecyn e-ddysgu dwyieithog rhad ac am ddim hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i ddiogelu ac fe'i datblygwyd yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae'r hyfforddiant ar gael i bawb ac mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n gweithio, yn gwirfoddoli neu'n ystyried gweithio ym meysydd gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a sefydliadau'r sector gwirfoddol.
Fel y lefel sylfaenol o ddysgu ym maes diogelu, mae hyfforddiant Grŵp A yn helpu dysgwyr i:
- ddeall ystyr diogelu
- adnabod camdriniaeth, niwed, esgeulustod a'r risg o gamdriniaeth
- gwybod pa gamau i'w cymryd os ydynt yn gweld neu'n amau camdriniaeth, niwed neu esgeulustod, neu os bydd rhywun yn datgelu pryderon iddynt
- datblygu dealltwriaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth diogelu
- deall eu dyletswydd i roi gwybod am bryderon diogelu mewn ffordd briodol.
Mae cwblhau dysgu Grŵp A yn darparu'r sylfaen ar gyfer symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu ym maes diogelu, gan gynnwys Grwpiau B ac C.
Mynediad at fodiwl e-ddysgu Grŵp A: Hyfforddiant Grŵp A.
Pecyn Hyfforddi Diogelu Grŵp B
Mae Pecyn Hyfforddi Diogelu Grŵp B wedi'i ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi sefydliadau i ddarparu dysgu ym maes diogelu i ymarferwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion. Mae angen lefel uwch o wybodaeth am ddiogelu ar ddysgwyr Grŵp B oherwydd natur eu rôl a'u cyswllt uniongyrchol ag unigolion a allai fod yn profi camdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
Mae'r pecyn adnoddau yn cynnwys deunyddiau cyflwyno, canllawiau i hyfforddwyr ac adnoddau ategol sydd wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ddarparu dysgu sy'n adlewyrchu'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu ym maes Diogelu.
Pecyn Hyfforddi Diogelu Grŵp C
Mae Pecyn Hyfforddi Diogelu Grŵp C wedi'i ddatblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi sefydliadau i ddarparu dysgu ym maes diogelu ar gyfer ymarferwyr sydd â chyfrifoldebau diogelu penodol, gan gynnwys y rhai sy'n darparu cyngor, cymorth ac arweinyddiaeth ym maes diogelu o fewn eu sefydliad.
Mae'r pecyn adnoddau yn cynnwys deunyddiau cyn y cwrs, adnoddau cyflwyno, canllawiau i hyfforddwyr a deunyddiau dysgu ategol sydd wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ddarparu dysgu sy'n adlewyrchu'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu ym maes Diogelu.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at:
• Gweithdrefnau Diogelu Cymru
• Canllawiau Statudol Rhan 7
Gellir defnyddio'r Llyfr Gwaith Diogelu Unigolion (Llyfr Gwaith 6 o'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan) i ddarparu tystiolaeth o'r dysgu a gyflawnwyd yn dilyn cwblhau gweithgareddau dysgu ym maes diogelu.
Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio
E-fodiwl Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad SSHP
Mae'r modiwl dysgu ar-lein rhad ac am ddim hwn yn rhoi cyflwyniad i ymwybyddiaeth ac atal hunanladdiad. Bydd dysgwyr yn archwilio ffactorau sy'n gysylltiedig â risg hunanladdiad, yn deall ffactorau a all leihau bregusrwydd, yn datblygu hyder i siarad am hunanladdiad, ac yn dysgu sut i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan hunanladdiad neu brofedigaeth.
Canolfan Hyfforddi Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio Cymru (SSHP Cymru)
Mae Canolfan Hyfforddi SSHP Cymru yn darparu mynediad at ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy'n ymwneud ag atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'r ganolfan yn cynnwys adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim, cyfleoedd datblygu'r gweithlu, adnoddau, digwyddiadau a gwybodaeth i gefnogi unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru.
Hyfforddiant ac Addysg Atal Hunanladdiad PAPYRUS
Mae PAPYRUS yn darparu addysg a hyfforddiant ym maes atal hunanladdiad i ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys gweithleoedd, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r sector cyhoeddus. Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i gynyddu ymwybyddiaeth, meithrin hyder, a chefnogi unigolion i adnabod ac ymateb i risg hunanladdiad.
Adnoddau Dysgu Ychwanegol
NSPCC – Hyfforddiant Diogelu a Diogelu Plant yng Nghymru
Virtual College – Adnabod ac Atal Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)
Deall Meddyliau Pobl Ifanc: Gwydnwch Emosiynol a Hunan-niweidio
Cadw Plant yn Ddiogel: Cwrs Rhad ac Am Ddim ar Ddiogelu Plant rhag Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
ExChange Wales – Digwyddiadau i Ddod