Beth gallaf ei wneud os byddaf yn poeni am blentyn?
Rhowch wybod i rywun a all helpu.
Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i amddiffyn plant rhag niwed.
Os byddwch yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, dywedwch wrth:
Gall yr asiantaethau hyn helpu.
MEWN ARGYFWNG DYLECH FFONIO 999 BOB AMSER.
Ni ddylech geisio datrys y broblem eich hun, na chyhuddo camdriniwr honedig.
Peidiwch â phoeni y gallech fod wedi gwneud camsyniad. Mae'n well dweud wrth rywun sy'n gwybod am amddiffyn plant na dweud dim byd.
Beth os bydd plentyn neu berson ifanc yn dweud wrthyf ei fod yn cael ei gam-drin?
- Dangoswch eich bod yn gwrando a'ch bod yn cymryd y mater o ddifrif.
- Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei glywed gan ddefnyddio'r union eiriau lle bo'n bosibl.
- Esboniwch y bydd angen i chi rannu'r hyn rydych wedi ei glywed â rhywun sy'n gwybod am amddiffyn plant.
- Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu neu'r NSPCC a rhowch wybod iddynt beth rydych chi'n ei wybod.
Beth y dylwn i ei wneud os byddaf yn poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn neu berson ifanc?
- Peidiwch â diystyru eich pryderon na'i adael i rywun arall i weithredu.
- Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu neu'r NSPCC a rhowch wybod iddynt beth sy'n eich pryderu.
- Â phwy y dylwn i gysylltu?
Ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth
Os byddwch yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn, cysylltwch â:

Sir Gaerfyrddin:
Ar-lein:
Rhowch wybod am bryder am blentyn neu dewch o hyd i wybodaeth am ddiogelu
Yn ystod oriau swyddfa
Y Tîm Atgyfeirio Canolog
Ffôn: 01554 742322
E-bost: CRTChildren@carmarthenshire.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa
Ffôn: 0300 333 2222
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol Plant (MARF)

Ceredigion:
Ar-lein:
Gwybodaeth a manylion cyswllt diogelu Cyngor Sir Ceredigion
Yn ystod oriau swyddfa - Cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol
Ffôn: 01545 574000
E-bost: contactsocservs@ceredigion.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa (Argyfyngau'r Gwasanaethau Cymdeithasol) - Tîm Dyletswydd Brys
Ffôn: 0300 456 3554

Sir Benfro:
Ar-lein:
Rhowch wybod am bryder am blentyn neu dewch o hyd i wybodaeth am ddiogelu
Yn ystod oriau swyddfa
Tîm Asesu Gofal Plant (CCAT)
Ffôn: 01437 776444
E-bost: ccat@pembrokeshire.gov.uk
Ymholiadau yn unig
E-bost: CAT@pembrokeshire.gov.uk
Y tu allan i oriau swyddfa
Tîm Dyletswydd Brys y Gwasanaethau Cymdeithasol (Galw Gofal)
Ffôn: 0300 123 5519

Powys:
Ar-lein:
Rhoi gwybod am bryder ynghylch plentyn
E-bost: csfrontdoor@powys.gov.uk
Yn ystod oriau swyddfa
Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01597 827666
Y tu allan i oriau swyddfa
Tîm Dyletswydd Brys
Ffôn: 0345 054 4847
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol