Polisïau a Gweithdrefnau Rhanbarthol
Mae'r Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau yn gweithredu ar y cyd ac mewn partneriaeth â Byrddau CYSUR a CWMPAS. Nod yr Is-grŵp hwn yw darparu arweiniad i weithwyr proffesiynol drwy ddatblygu polisïau a gweithdrefnau rhanbarthol. Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau lleol ar waith ym mhob sefydliad partner. Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi datblygu nifer o bolisïau a gweithdrefnau diogelu amlasiantaeth sy'n darparu canllawiau gweithredol i staff ar ymarfer diogelu.