Deall Profiad Bywyd - Defnyddio Adolygiadau Ymarfer ac Ymchwil i Gryfhau Ymarfer Diogelu
Paula McCreary Ymgynghorydd Diogelu, Hyfforddwraig ac Addysgwraig
Mae Paula McCreary yn ymgynghorydd diogelu annibynnol, yn hyfforddwraig ac yn addysgwraig sydd â phrofiad helaeth ym maes diogelu plant ac oedolion. Trwy hyfforddiant, ymchwil ac ymgynghoriaeth, mae'n cefnogi sefydliadau ac ymarferwyr i gryfhau ymarfer diogelu, chwilfrydedd proffesiynol a dysgu o adolygiadau.
Crynodeb o'r Cyflwyniad
Archwiliodd cyflwyniad Paula sut y gall profiad bywyd gryfhau ymarfer diogelu a gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Gan dynnu ar ddysgu o Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac ymchwil gyfredol, amlygodd bwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol, ymgysylltu ystyrlon, cyfathrebu effeithiol a deall yr unigolyn cyfan y tu hwnt i labeli, diagnosisau neu bryderon sy'n ymddangos ar yr wyneb.
Cyflwyniad
Gwybodaeth Bellach
Ymarferion Rhyngweithiol a Myfyrdodau
Yn ystod y digwyddiad, gwahoddwyd cyfranogwyr i fyfyrio ar y rhwystrau a'r ffactorau galluogi sy'n dylanwadu ar ein gallu i ddeall profiad bywyd o fewn ymarfer diogelu. Cafodd eu cyfraniadau eu casglu drwy weithgareddau rhyngweithiol a gynhaliwyd yn ystod y sesiwn.
Beth sy'n ein rhwystro?
Rhannodd y cyfranogwyr eu barn drwy weithgaredd Slido, gan nodi ffactorau a all ei gwneud yn anodd deall profiad bywyd unigolyn yn llawn, gan gynnwys heriau sefydliadol, cyfathrebu ac ymarfer.
Gweler y myfyrdodau yma.
Beth sy'n ein helpu?
Cyfrannodd y cyfranogwyr hefyd at weithgaredd Padlet a archwiliodd y dulliau, yr ymddygiadau a'r amodau sy'n helpu ymarferwyr i ddeall profiad bywyd a meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Gweler myfyrdodau a syniadau'r Padlet yma.
Dolenni i wybodaeth ychwanegol:
Adolygiadau Ymarfer Plant: Ffocws ar safbwynt a phrofiad go iawn y plentyn – Mai 2026
Thematic Review of Adult Practice Reviews (APRS) Wales 2025
Risg, Ymateb ac Adolygu: Diogelu Amlasiantaeth
Ail Ddadansoddiad Cenedlaethol o Adolygiadau Diogelu Oedolion: Ebrill 2019 - Mawrth 2023
Mae dysgu newydd yn cael ei lywio bellach drwy'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR).
Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
"Ni Chlywyd Ei Lais" - Llais y Plentyn neu'r Person Ifanc
Chwilfrydedd Proffesiynol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
Adnabod ac Ymateb i Gam-drin