Crynodeb o'r Digwyddiad
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2026, cynhaliodd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru ddigwyddiad ar-lein yn archwilio cam-drin ariannol a'i effaith ar oedolion sydd mewn perygl. Dan arweiniad Dr Martin Vaughan, archwiliodd y sesiwn sut mae cam-drin ariannol yn digwydd, pwy all fod fwyaf mewn perygl, a rôl ymarferwyr wrth adnabod pryderon ac ymateb yn effeithiol.
Gan dynnu ar ddeddfwriaeth, ymarfer diogelu, ymchwil a dysgu o adolygiadau, archwiliodd y digwyddiad y cysylltiadau rhwng cam-drin ariannol, gorfodaeth, camfanteisio a mathau eraill o niwed. Ystyriodd y cyfranogwyr gymhellion ac ymddygiadau cyflawnwyr, ffactorau a all gynyddu bregusrwydd, a'r rhesymau pam y gall cam-drin ariannol gael ei gyflawni'n aml gan bobl mewn safleoedd o ymddiriedaeth.
Thema gyson drwy gydol y sesiwn oedd pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol, rhannu gwybodaeth a gweithio amlasiantaethol. Anogwyd ymarferwyr i edrych y tu hwnt i'r amgylchiadau sy'n ymddangos ar yr wyneb, gofyn cwestiynau priodol a gweithio ar y cyd i adnabod pryderon a diogelu oedolion a allai fod yn profi camdriniaeth
Beth yw Cam-drin Ariannol?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn disgrifio cam-drin ariannol fel gweithredoedd sy'n cynnwys dwyn arian neu eiddo, twyllo unigolyn, rhoi pwysau arno mewn perthynas ag arian neu eiddo, neu gamddefnyddio ei arian neu ei eiddo.
Gall cam-drin ariannol gymryd sawl ffurf, gan gynnwys lladrad, camfanteisio, gorfodaeth, sgamiau, camddefnyddio atwrneiaethau, pwysau mewn perthynas ag ewyllysiau ac etifeddiaeth, a chamddefnyddio safleoedd o ymddiriedaeth. Gall ddigwydd ochr yn ochr â mathau eraill o gamdriniaeth ac yn aml gall fod yn anodd ei hadnabod.
Dr Martin Vaughan (MEWI)
Arbenigwr mewn Cyfweld Ymchwiliol a Diogelu
Mae Dr Martin Vaughan yn gyn-Rhingyll Ditectif gyda 30 mlynedd o brofiad mewn plismona, gan arbenigo mewn ymchwiliadau troseddol, cyfweld ymchwiliol a diogelu. Bu'n arwain hyfforddiant cyfweld ymchwiliol ar gyfer Heddlu Gwent, gwasanaethodd fel Cynghorydd Cyfweld Cydnabyddedig ACPO Cenedlaethol Cymru, ac mae'n parhau i ddarparu hyfforddiant arbenigol ym maes diogelu ac ymchwiliadau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.