Polisïau a Gweithdrefnau Rhanbarthol

Mae’r Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau’n gweithredu ar y cyd ac mewn cydweithrediad gyda Byrddau CYSUR a CWMPAS fel ei gilydd. Mae’r Is-grŵp hwn yn ceisio cynnig arweiniad i weithwyr proffesiynol trwy ddatblygu polisïau a gweithdrefnau rhanbarthol. Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith o fewn pob sefydliad. Prif amcan y Bwrdd yn 2017/18 yw gweithio tuag at ddatblygu’r rhain yn bolisïau a gweithdrefnau rhanbarthol er mwyn helpu hyrwyddo ymateb mwy cyson i arferion diogelu.

Caiff holl ddogfennaeth ranbarthol ei datblygu gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn cydweithrediad â phartneriaid ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru trwy system aml-asiantaeth ac wrth ymgynghori ag ymarferwyr y rheng flaen, defnyddwyr gwasanaeth, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

 

Mae pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ar draws Cymru wedi arwain wrth godi ymwybyddiaeth o thema diogelu benodol ac wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau gyda gwybodaeth bellach ar bob thema, sydd wedi’u haddasu i’w defnyddio yn ein hardaloedd lleol (gweler isod).

Cymorth cynnar a throthwy anghenion aml-asiantaeth

Nododd adolygiad o Fwrdd CYSUR gan ymgynghorydd annibynnol yr argymhelliad i lunio dogfennau cymorth cynnar a throthwy anghenion aml-asiantaeth er mwyn dod â chysondeb ledled y rhanbarth yn nhermau atgyfeirio plant ac oedolion mewn perygl. 

Y gyntaf oedd ffurflen atgyfeirio unigol i holl asiantaethau:

Mae’r ail ddogfen wedi’i llunio i gynnig arweiniad i weithwyr proffesiynol er mwyn rhoi eglurder dan ba amgylchiadau i atgyfeirio plant a’u teuluoedd am gefnogaeth ar draws y sbectrwm anghenion, gan adeiladu ar gryfderau teuluoedd a deilliannau personol:

CYSUR Dogfen Trothwyau Rhanbarthol & Chymhwystra ar gyfer Cymorth - 'Y Cymorth Iawn ar yr Adeg Iawn' (Ebrill 2017)
CYSUR Cefnogaeth ar gyfer Lles - defnydd lleol

Canllawiau Trothwy Diogelu Oedolion CWMPAS

Er mwyn darparu canllawiau rhanbarthol a chysondeb, datblygwyd y ‘canllawiau trothwy diogelu oedolion’ canlynol gan CWMPAS, Bwrdd Diogelu Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar y cyd ag asiantaethau partner ac ar ôl ymgynghori â staff y rheng flaen.

Diben y canllawiau trothwy yw sicrhau bod ein hymateb rhanbarthol, cyfunol i gadw pobl yn ddiogel yn briodol a chymesur â’r cam-drin / esgeulustod a nodwyd neu’r perygl ohono.

CWMPAS Dogfen Ganllaw Ranbarthol ynghylch Trothwy Diogelu Oedolion

Ffurflen Atgyfeirio Aml-asiantaeth Oedolion mewn Perygl CWMPAS (Ffa)

Yn unol â’r MARF Plant, mae Bwrdd CWMPAS wedi datblygu fersiwn oedolion i alluogi’r un cysondeb gyda gwasanaethau oedolion.

Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol (MARF) CWMPAS ar gyfer oedolion
• Ffurflen Atgyfeirio Safonau Gwasanaeth Arferion Gwael CWMPAS (Gorffennaf 2018)
CWMPAS FAA Gwybodaeth Ategol

Protocol Aml-asiantaethol - Trothwy ar gyfer ymholiadau amddiffyn plant o dan Adran 47 a wneir gan wasanaeth cymdeithasol a'r heddlu ar y cyd a chan asiantaeth unigol

Mae'r protocol hwn yn rhoi arweiniad i wasanaethau cymdeithasol, yr heddlu a phartïon eraill sy'n rhan o unrhyw drafodaethau a/neu gyfarfodydd strategaeth ynghylch ymholiadau Amddiffyn Plant a wneir o dan Adran 47 o Ddeddf Plant 1989 lle mae angen i wasanaethau cymdeithasol a'r heddlu wneud ymholiadau Amddiffyn Plant o dan Adran 47 ar y cyd neu lle mae angen i asiantaeth unigol wneud ymholiadau Amddiffyn Plant o dan Adran 47.

Protocol ar gyfer diogelu plant sydd wedi'u heffeithio gan rieni sy'n profi salwch meddwl

Nod cyffredinol y Protocol hwn ydy sicrhau bod plant, gan gynnwys plant sydd heb eu geni i riant/rhieni sy’n profi salwch meddwl, yn derbyn cefnogaeth, diogelwch ac amddiffyniad priodol.

CYSUR Protocol ar gyfer Diogelu Plant sydd wedi'u Heffeithio gan Rieni sy'n profi Salwch Meddwl (Gorffennaf 2017)

Protocol adolygiad arferion

Mae’r protocolau hyn wedi’u datblygu i roi eglurder i’r trefniadau gwaith ar gyfer Adolygiadau Arferion Plant ac Oedolion fel ei gilydd oddi fewn i ranbarth Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r dogfennau’n canolbwyntio ar egwyddorion ehangach Adolygiadau Arferion Plant ac Oedolion cyn i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol wneud penderfyniad i gomisiynu’n ffurfiol Adolygiad Arferion Plant neu Oedolion neu Fforwm Proffesiynol Aml-asiantaeth.

CWMPAS Protocol Adolygiad Ymarfer Oedolion (Gorffennaf 2017)
CYSUR Protocol Adolygiad Ymarfer Plant (Ebrill 2017)

Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru Polisi Cwynion

Mae’r polisi isod yn datgan sut fydd y Bwrdd yn rheoli cwynion.

Bwrdd Diogelu CaGC Polisi Cwynion (2023)

Protocol aml-asiantaeth ar gyfer datrys gwahaniaethau proffesiynol

Yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae hanes cryf o waith partneriaeth amlasiantaeth. Yn anochel, bydd gwahaniaethau proffesiynol yn codi ar adegau yng nghyd-destun gwaith diogelu cymhleth. Fodd bynnag, pan fydd gwahaniaethau proffesiynol yn digwydd nad ellir eu datrys yn anffurfiol, mae’n hanfodol bod pob aelod o staff neu weithiwr proffesiynol unigol yn gallu herio arfer a phenderfyniadau eraill mewn modd adeiladol a beirniadol. Yn y polisi isod, nodir sut y bydd gwahaniaethau proffesiynol yng nghyd-destun Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu datrys.

Protocol Amlasiantaeth ar gyfer Datrys Gwahaniaethau Proffesiynol (Hydref 2022)

Strategaeth atal camfanteisio'n rhywiol ar blant CYSUR

Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yw gorfodi neu arwain plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Mae'n ffurf ar gamdriniaeth rywiol sy'n cynnwys cyfnewid rhyw fath o daliad a all olygu arian, ffonau symudol ac eitemau eraill, cyffuriau, alcohol, lle i aros, 'amddiffyniad' neu serch.

Mae natur agored i niwed y person ifanc a'r broses o feithrin perthynas a ddefnyddir gan gyflawnwyr yn peri bod y person yn analluog i adnabod natur gamfanteisiol perthynas ac yn methu â rhoi cydsyniad gwybodus.

Strategaeth Atal Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant CYSUR (Awst 2015)
Amlasiantaethol CRhB Cylch Gorchwyl (Hydref 2017)

Strategaeth hyfforddiant diogelu rhanbarthol pob oed

Busnes pawb yw diogelu pobl. Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWSB) yn ymroddi i ddarparu rhaglenni hyfforddiant amlasiantaethol o safon, er mwyn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau sector statudol a phreifat a’r trydydd sector i ddiogelu a hyrwyddo ffyniant pobl, gan gynnwys atal ac amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.

Strategaeth Hyfforddiant Diogelu Rhanbarthol Pob Oed (Gorffennaf 2018)

Rhyngwyneb rhwng proses yr adolygiad ymarfer plant ac oedolion ac adolygiau dynladdiad yn y cartref

Mae Byrddau Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru a’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol priodol o fewn y rhanbarth wedi ymrwymo i atgyfnerthu cyfathrebu a rhannu gwybodaeth wrth wneud Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad yn y Cartref.

Rhyngwyneb rhwng Proses yr Adolygiad Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad yn y Cartref yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (Gorffennaf 2018)

Proses ymateb trefniadol i farwolaeth annisgwyl mewn plentyndod (PRUDiC)

Mae gweithdrefn Iechyd Cyhoeddus Cymru PRUDiC yn pennu safon ofynnol ar gyfer ymateb i farwolaethau annisgwyl mewn babandod a phlentyndod. Mae’n disgrifio proses gyfathrebu, gweithredu cydweithredol a rhannu gwybodaeth yn dilyn marwolaeth annisgwyl plentyn.

Bydd Byrddau Rhanbarthol Diogelu Plant yn arolygu’r prosesau PRUDiC a ddechreuir yn eu rhanbarthau a sicrhau bod yr ymateb trefniadol yn cael ei ddilyn i’w derfyn.

Proses PRUDiC Iechyd Cyhoeddus Cymru
Proses PRUDiC Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru (Gorffennaf 2018)

Strategaeth VAWDASV

Strategaeth Bywydau mwy Diogel Cysylltiadau Iachach VAWDASV (Tachwedd 2018)
Gwasanaethau DV Arbenigol Canolbarth a Gorllewin Cymru (Tachwedd 2018)
Strategaeth VAWDASV Hawdd ei Darllen (Tachwedd 2018)
Cynllun Cyflawni (Tachwedd 2018)
Strategaeth Trais Yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig A Thrais Rhywiol Canolbarth A Gorllewin Cymru 2023 - 2027

Protocol Rhannu Gwybodaeth

Mae’r Protocol hwn yn rhoi fframwaith ar gyfer rhannu hysbysrwydd diogelu rhwng asiantaethau ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Diben y protocol yw galluogi a darparu fframwaith addas ar gyfer diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn well, fel bod gweithwyr proffesiynol yn gallu gwneud penderfyniadau seiliedig ar yr holl hysbysrwydd diogelu perthnasol sydd ar gael.

Adran 46 Deddf Plant 1989 (Pwerau’r Heddlu) Protocol ar gyfer Asiantaethau’n Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc Dan 18 Oed

Protocol Adran 46

Polisi a Gweithdrefn Digwyddiadau Diogelu Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd (DDCGC)

Diben y ddogfen hon yw nodi beth y mae gofyn i staff sy’n gweithio yn y Tîm Troseddau Ieuenctid (TTI) wneud os yw plentyn mewn digwyddiad Diogelu neu Warchod y Cyhoedd tra bydd dan oruchwyliaeth neu yn llwyth achosion y TTI ac yn cynnwys y bobl ifanc hynny nad ydynt dan oruchwyliaeth y TTI pan gawsant eu cyhuddo.

Protocol Addysg Gartref Ddewisol (EHE)

Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cytuno ar Brotocol Addysg Gartref Ddewisol i’w ddilyn ar hyd a lled ein rhanbarth eang. Trwy weithredu’r Protocol hwn yn gyson, bydd ein hasiantaethau partner yn gallu ymateb yn rhanbarthol mewn ffordd gyson a chyfiawn i ddiogelu plant EHE ledled tiriogaeth y Bwrdd.

Er na thybir bod plant EHE mewn mwy o berygl niwed neu gamdriniaeth na’r rhai sy’n mynychu ysgol yn y bôn, fe fydd lleiafrif o blant sy’n gofyn cymorth gwasanaethau diogelu fel gyda holl grwpiau a chymunedau. Felly, cynhyrchwyd y Protocol hwn er mwyn galluogi ac atgyfnerthu’r cymorth hwn i blant ar hyd a lled Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Adnodd Asesu Atal Hunanladdiad

Mae Adolygiadau Ymarfer Plant (CPR) diweddar wedi nodi hunanladdiad fel thema allweddol, sydd wedi arwain at ddatblygu’r Adnodd Asesu Atal Hunanladdiad hwn. Mae’r ddogfen hon i’w defnyddio gan ymarferwyr pan fo plentyn dan 18 oed yn mynegi ideolegau hunanladdol, neu wedi ceisio hunanladdiad. Mae’r Adnodd Asesu a’r Canllawiau Waled, sy’n rhoi canllawiau atodol cryno a luniwyd i’w darparu i ymarferwyr fel adnoddau hygyrch, i’w gweld isod.

Canllawiau Ymarfer FfPA

Fforymau Proffesiynol Amlasiantaethol (FfPA) yw adolygiadau dan arweiniad Awdurdod Lleol pan fo plentyn neu oedolyn mewn perygl yn marw, neu’n dioddef niwed sylweddol, er mwyn dysgu o’r achos, yn ogystal ag unrhyw arferion da, a themâu allweddol sy’n codi. Mae’r FfPA Rhanbarthol yn cynnull yn rheolaidd i drafod FfPA newydd a chyfredol ac i rannu arferion da ledled y rhanbarth. Mae’r canllawiau isod yn darparu pecyn cymorth o adnoddau a chanllawiau arferion gorau i Awdurdodau Lleol yn nhiriogaeth y Bwrdd, er mwyn atgyfnerthu a sicrhau cysondeb rhanbarthol proses y FfPA.

Taflen Cynhadledd Amddiffyn Plentyn

Bydd Cadeiryddion Cynadleddau ar hyd a lled Sir Benfro, Sir Gâr, Ceredigion a Phowys yn cynnull fel fforwm rhanbarthol trwy grŵp Cadeiryddion Cynadleddau Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Trwy’r fforwm, Cadeiryddion y Cynadleddau mae wedi datblygu taflen a gymeradwywyd yn rhanbarthol sy’n rhoi gwybodaeth i rieni sy’n destun Cynhadledd. Mae’r daflen hon yn cwmpasu diben Cynhadledd a’r broses y bydd yn ei dilyn, yn ogystal â cheisio lleddfu rhai o bryderon rhieni.

Gwybodaeth i Rieni am Archwiliad Meddygol Diogelu Plant

Ein cydweithwyr Iechyd sydd wedi hybu datblygu’r dogfennau allweddol hyn, a luniwyd i egluro proses Archwiliadau Meddygol Diogelu Plant i rieni / gwarcheidwaid plant lle nodwyd bod gofyn prawf neu archwiliad. Nod y taflenni hyn yw ateb y cwestiynau allweddol sy’n cael eu gofyn yn aml gan rieni, a sicrhau eu bod yn deall y broses.

Anafiadau mewn plant sy’n methu symud

Mae’n bwysig iawn cydnabod y gall mân anafiadau fod yn ddangosydd neu’n rhagflaenydd anafiadau sylweddol neu farwolaeth plentyn. Mae adnabod a gweithredu’n gynnar mewn achosion o’r fath yn allweddol i atal anafiadau pellach. Mae’r weithdrefn hon yn rhoi dull gweithredu cyson ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’n berthnasol i bob ymarferwr wrth ymdrin ag anafiadau a amheuir mewn babanod a phlant, nad ydynt yn medru symud, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol.

Gweithdrefn ar gyfer Rheoli Achosion lle mae Amheuaeth o Anafiadau i Blant nad ydynt yn Gallu

Polisi Recordio Cyfarfodydd gan Rieni a Defnyddwyr Gwasanaeth

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â phan fydd ar ddefnyddwyr gwasanaeth, rhieni, ac eraill sydd â chyfrifoldeb rhieni eisiau recordio cyfarfod amlasiantaethol megis adolygiad plentyn sy’n derbyn gofal, cynhadledd amddiffyn plentyn neu oedolyn neu gyfarfod gofal a chymorth. Diben y canllawiau hyn ydy rhoi eglurder ynghylch agwedd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru at recordio cyfarfodydd. Bydd yn cefnogi arfer da presennol o ran y modd y cynhelir cyfarfodydd a dylai annog ymarferwyr i wrando ar rieni a defnyddwyr gwasanaethau am eu rhesymau dros fod eisiau recordio.

Polisi ar gyfer Rhieni a Defnyddwyr Gwasanaeth sydd eisiau Recordio Cyfarfodydd

Llwybr Cyn Geni Amlasiantaethol

Cynlluniwyd y canllawiau hyn i nodi'n well y babanod hynny sydd fwyaf mewn perygl a hyrwyddo rhannu gwybodaeth yn effeithiol rhwng asiantaethau a gwaith amlasiantaethol effeithiol ac effeithlon.

Llwybr Cyn Geni Amlasiantaethol

Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru Adroddiad Asiantaeth ar gyfer Cynhadledd Amddiffyn Plant

CYSUR– Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru Adroddiad Asiantaeth ar gyfer Cynhadledd Amddiffyn Plant

CYSUR– Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru Adroddiad Asiantaeth ar gyfer Cynhadledd Amddiffyn Plant GYCHWYNNOL
CYSUR– Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru Adroddiad asiantaeth ar gyfer Cynhadledd Amddiffyn Plant ADOLYGU

Canllawiau Rhanbarthol ar Gam-drin Rhieni gan Blant

Canllawiau Rhanbarthol ar Gam-drin Rhieni gan Blant

Canllawiau Rhanbarthol ar Gam-drin Rhieni gan Blant

Protocol Interim ar gyfer Ymateb yn Gyflym i Ddigwyddiadau o Hunanladdiad Tybiedig

Mae’r Protocol Ymateb Cyflym i Ddigwyddiadau o Hunanladdiad a Amheuir yn nodi trefniadau rhanbarthol i ddarparu ymateb cyflym, amlasiantaeth wrth reoli canlyniadau ac effaith achosion o hunanladdiad ar gyfer plant ac oedolion ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Protocol Interim ar gyfer Ymateb yn Gyflym i Ddigwyddiadau o Hunanladdiad Tybiedig

Dogfen Strategaeth Camfanteisio ar Blant

Mae'r Strategaeth Camfanteisio ar Blant yn gwneud ymrwymiad i atal a mynd i'r afael â cham-fanteisio ar blant yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys ystod o ymatebion i fynd i'r afael ag ymatebion ataliaeth, amddiffyn a chefnogi, yn seiliedig ar y dystiolaeth gyfredol o sut beth yw cymorth effeithiol, wedi'i thanategu gan egwyddorion sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sydd wedi'u seilio ar hawliau plant.

Dogfen Strategaeth Camfanteisio ar Blant

Plant a’r Glasoed / Pobl Ifanc sy'n Agored i Niwed – Canllawiau ar Ddefnyddio Iaith Briodol

Mae'r canllaw hwn wedi'i greu ar gyfer staff cymorth, ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau partner sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd a’r gymuned i ddefnyddio iaith briodol, gan gyfeirio’n benodol at gam-fanteisio’n rhywiol ar blant a cham-fanteisio’n droseddol ar blant.

Plant a’r Glasoed / Pobl Ifanc sy'n Agored i Niwed – Canllawiau ar Ddefnyddio Iaith Briodol

Lleihau'r Broses o Droseddu Diangen gan Blant ac Oedolion Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal: Canllawiau Ymarfer

Mae canllawiau ymarfer Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi'u llunio i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd ym 'Mhrotocol Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau troseddu gan blant ac oedolion ifanc sydd â phrofiad o ofal', gan ddarparu canllawiau gweithredol clir i ddarparwyr preswyl ac asiantaethau o fewn y System Cyfiawnder Troseddol. Roedd protocol Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, wedi'i anelu at amrywiol asiantaethau gan gynnwys awdurdodau lleol, gwasanaethau'r heddlu, y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Erlyn y Goron a llawer mwy sy'n ymwneud â darparu cefnogaeth i blant mewn gofal.

Lleihau'r Broses o Droseddu Diangen gan Blant ac Oedolion Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal: Canllawiau Ymarfer

Canllawiau Ymarfer Amlasiantaeth ar gyfer Ymdrin ag Achosion o Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i Ddiogelu Oedolion ag Anghenion Gofal a Chymorth

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol i gynorthwyo partneriaid Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â materion Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol lle maent yn effeithio ar oedolion ag anghenion gofal a chymorth a hefyd lle mae'r atgyfeiriadau hyn y tu allan i'r trothwy oedolyn sy’n wynebu risg.

Canllawiau Ymarfer Amlasiantaeth ar gyfer Ymdrin ag Achosion o Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i Ddiogelu Oedolion ag Anghenion Gofal a Chymorth

Canllawiau ar Weithio gyda Phobl sy'n Anodd Ymgysylltu â Nhw

Canllawiau ar Weithio gyda Phobl sy'n Anodd Ymgysylltu â Nhw

Canllawiau ar Weithio gyda Phobl sy'n Anodd Ymgysylltu â Nhw