Y CYMORTH CYWIR AR YR AMSER CYWIR

Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024

Y cymorth cywir ar yr amser cywir yw thema rhaglen eang ei chwmpas sy’n cael ei chynnal ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n dechrau ar 11 Tachwedd 2024. Cydlynwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac eleni fe’i cynlluniwyd mewn ymateb i rai o’r themâu a’r materion diogelu sydd wedi dod i’r amlwg ar draws y rhanbarth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys dysgu a nodwyd gan adolygiadau ymarfer oedolion a phlant.

Mae uchafbwynt yr wythnos yn cynnwys cynhadledd ar gyfer ymarferwyr amlasiantaeth, a gynhelir yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai gan brif siaradwyr ac yn cynnwys gwybodaeth am ddulliau ymyrraeth gynnar a modelau adfer ar ôl trawma, ochr yn ochr â mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’r rhai sydd â phrofiad bywyd.

Yn ystod yr wythnos, byddwn hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweminarau a fydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth ac amlygu materion sy’n effeithio ar blant ac oedolion sy’n wynebu risg. Mae hyn yn cynnwys gweminar yn ymdrin â chwalu mythau ym maes rhannu gwybodaeth mewn gwaith diogelu amlasiantaeth. Bydd hefyd sesiwn rhannu gwybodaeth a hyrwyddo i gynnwys rhagolwg o ddogfen cymorth trothwy a chymhwysedd newydd CYSUR a cham nesaf yr hyfforddiant diogelu amlasiantaethol. Yn ogystal, byddwn hefyd yn cynnal gweminarau ar wersi thematig o adolygiadau ymarfer plant yng Nghymru ac
adolygiad thematig o adolygiadau diogelu oedolion. Ochr yn ochr â’r digwyddiadau hyn,
bydd mewnbwn gan grwpiau trydydd sector a grwpiau annibynnol gyda digwyddiadau gan
SHINE, yr NSPCC a Chymdeithas y Plant. 

Beth sydd ymlaen - Rhaglen o ddigwyddiadau

Rhaglen 2024 Canolbarth a Gorllewin Cymru