Diogelu Pobl Ifanc Drawsryweddol rhag Camfanteisio

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS: Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024, 10am–11.30am

 

Cyflwynydd: Holly Sayce, Swyddog Atal dros Gymru, Cymdeithas y Plant
 
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall rhwystrau mewn cymdeithas ein harwain at fethu ag amddiffyn pobl ifanc drawsrywiol ac anneuaidd rhag camfanteisio a niwed, a beth allwn ni ei wneud i oresgyn y rhwystrau yn ein hymarfer ac yn ein systemau. Bydd hefyd yn ceisio hyrwyddo dull cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i ddeall ac ymateb i gamfanteisio a cham-drin, ac archwilio’r risgiau penodol a wynebir gan blant a phobl ifanc drawsryweddol.