Sesiwn Wybodaeth Siarad Pants – NSPCC
SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2024, 4.15-5.15
Cyflwynydd: Lil Dunn (NSPCC)
Mae ymgyrch Siarad PANTS wedi’i hanelu at weithwyr addysg proffesiynol, athrawon, ymarferwyr y blynyddoedd cynnar a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant rhwng tair ac unarddeg mlwydd oed, i gael sgyrsiau syml sy’n briodol i oedran y plant a all helpu i gadw plant yn ddiogel rhag camdrin rhywiol. Mae’r sesiwn wybodaeth yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall sut mae ymgyrch Siarad PANTS yn gweithio ac ar yr un pryd hefyd yn rhannu’r amrediad eang o adnoddau sydd ar gael i’w defnyddio.
Bydd y sesiwn yn cynnwys gwybodaeth am nod ymgyrch Siarad PANTS, canllawiau addysgu, cynnwys newydd ar y blynyddoedd cynnar i blant rhwng tair a phum mlwydd oed ac ar gyfer plant rhwng saith ac unarddeg mlwydd oed, pecyn adnoddau Siarad PANTS ochr yn ochr â chynnwys newydd ar gyfer anghenion addysgol arbennig ac anabledd (AAAA), anghenion cymorth ychwanegol a chymorth ychwanegol ar gyfer dysgu, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol eraill, gan gynnwys Makaton.