ARFERION DIOGELU CADARNHAOL
Wythnos Genedlaethol Diogelu – Crynodeb
Arferion diogelu cadarnhaol oedd thema rhaglen eang o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu, yn dechrau ar 10 Tachwedd 2025. Cydlynwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, a benderfynwyd ar thema eleni mewn ymateb i faterion diogelu a oedd wedi dod i’r amlwg ar draws y rhanbarth yn ystod y flwyddyn flaenorol.
Cawsom gannoedd o gyfranogwyr yn cofrestru ac yn cymryd rhan yn y digwyddiadau ar-lein drwy gydol yr wythnos, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau lleol a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025, a chafwyd adborth cadarnhaol iawn.
Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweminarau a oedd â’r nod o godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar blant ac oedolion sy’n wynebu risg. Roedd hyn yn cynnwys gweminar yn ailedrych ar elfennau allweddol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a sut y dylid eu cymhwyso mewn ymarfer diogelu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, cyd-destunau a senarios. Yn ogystal, cynhaliom weminar yn rhannu canfyddiadau adolygiad thematig 2025 o adolygiadau ymarfer oedolion yng Nghymru, a gweminar arall yn tynnu sylw at wasanaeth am ddim ar gyfer diogelu pobl agored i niwed â dementia sydd mewn mwy o berygl o fynd ar goll (Protocol Herbert). Ochr yn ochr â’r digwyddiadau hyn, cafwyd mewnbwn gan grwpiau trydydd sector a grwpiau annibynnol, gan gynnwys sesiynau gan Llwybrau Newydd, Sefydliad Lucy Faithfull Cymru, NSPCC Cymru a Mind Llanelli.
Un o uchafbwyntiau’r wythnos oedd cynhadledd ar gyfer ymarferwyr amlasiantaeth, a gynhaliwyd yn yr Egin, Caerfyrddin. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai gan brif siaradwyr ac yn cynnwys cyflwyniad ar ganlyniad a chanfyddiadau’r adolygiad a gynhaliwyd yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd yn Southport ym mis Gorffennaf 2024, gwybodaeth am fodel ymarfer y Newid Mwyaf Arwyddocaol, bregusrwydd mewn niwroamrywiaeth, a defnyddio deallusrwydd artiffisial i gefnogi rhannu gwybodaeth, ochr yn ochr â mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’r rhai sydd â phrofiad bywyd.
Archwiliwch ein horiel luniau o’r gynhadledd, gwyliwch recordiadau o gyflwyniadau gan brif siaradwyr, a chyrchwch adnoddau o ddigwyddiadau ar-lein yr wythnos isod.
Pecyn Cynrychiolwyr Cynhadledd 2025
Cynhadledd: Arferion cadarnhaol mewn diogelu (Wedi’i archebu’n llawn)
Annual Regional Conference 2025 - Oriel
Cynhadledd Ranbarthol Flynyddol 2025 – Cyflwyniadau
Digwyddiadau Rhanbarthol
Roedden ni wrth ein bodd i groesawu 588 o ymarferwyr diogelu anhygoel o ystod eang o asiantaethau i’n cyfres o ddigwyddiadau Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni! Mae wedi bod yn wythnos wych, gyda hyfforddiant wedi’i ddarparu ar faterion allweddol sy’n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl.
Diolch enfawr i’n hyfforddwyr, mynychwyr ac asiantaethau partner am eu cefnogaeth wrth wneud yr wythnos hon yn llwyddiant!
Mae adnoddau o ddigwyddiadau unigol ar-lein ar gael isod.