Gwersi thematig o adolygiadau ymrfer plant, ymchwil ac adroddiadau arolygu amlasiantaeth yng nghymru

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2024, 2.00-4.00

Cyflwynydd: Dr Donna Peach a Dr Holly Gordon


Bydd y seminar ar-lein hon yn ystyried ac yn cyflwyno themâu a negeseuon allweddol o adolygiadau ymarfer plant a gynhaliwyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, ochr yn ochr â’r ymchwil a wnaed gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Risg, Ymateb ac Adolygu:Diogelu Amlasiantaeth, Dadansoddiad thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried canfyddiadau allweddol o adroddiadau arolygu amlasiantaeth cenedlaethol diweddar a gynhaliwyd yng Nghymru, gan gynnwys yr Adolygiad Cyflym o Drefniadau Amddiffyn Plant yng Nghymru a’r Cyd-arolygiad o Drefniadau Amddiffyn Plant 2019-2024 (JICPA), a gynhaliwyd gan AGC, Estyn ac AGIC.

Bydd y sesiwn yn ystyried y goblygiadau i ymarferwyr a rheolwyr amlasiantaeth yn eu rolau diogelu plant ac yn hwyluso peth amser trafod myfyriol.