Gweithdy Gwrando, Codi Llais – NSPCC
SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS: Dydd Llun, 11 Tachwedd 2024, 4.15-5.15
Cyflwynydd: Lil Dunn (NSPCC)
Mae hanner miliwn o blant yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod bob blwyddyn yn y DU. Ond mae rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud i newid hynny. Gwyddom, gyda’r gefnogaeth gywir, y gellir cadw pob plentyn yn ddiogel. Gallwn atal camdriniaeth, a hyd yn oed ei hatal rhag digwydd. Ond er mwyn gwneud hyn, mae angen inni gydweithio. Hyd yn oed os nad yw plant yn rhan fawr o’ch bywyd bob dydd, byddwch yn dal i rannu cymuned â nhw – ar eich stryd, wrth i chi deithio i’r gwaith neu yn y siopau. Mae gwybod sut i siarad ar eu rhan yn hanfodol.
Bydd hyfforddiant Gwrando, Codi Llais yn:
- eich helpu i ddeall sut i wrando a siarad ar ran plant
- dangos i chi â phwy i gysylltu os ydych yn pryderu am blentyn neu angen cefnogaeth eich hun
- eich grymuso i gefnogi plant yn eich cymuned