Chwalu’r mythau ym maes rhannu gwybodaeth mewn gwaith diogelu Amlasiantaeth
SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Llun 11 Tachwedd 2024, 2.00-4.00
Cyflwynydd: Dai Durbridge
Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn darparu hyfforddiant diddorol ar rannu gwybodaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar y canlynol:
- Deddfwriaeth diogelu data yng nghyd-destun diogelu, gyda chysylltiadau ag adolygiadau ymarfer plant rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru.
- Archwilio’r rhwystrau i rannu gwybodaeth – beth sy’n atal gweithwyr proffesiynol rhag trosglwyddo gwybodaeth i ofal cymdeithasol a chyfnewid gwybodaeth rhwng asiantaethau pan fo
pryderon. - Canolbwyntio ar ardaloedd amwys lle mae pryderon yn dod i’r amlwg, ond lle nad yw’n glir bod y trothwy ar gyfer niwed sylweddol wedi’i gyrraedd.
- Golwg ar gael caniatâd. Pryd mae’n iawn rhannu heb ganiatâd? Bydd y weminar yn ymdrin â rhai o’r mythau am hyn.