Adolygiad Thematig O Adolygiadau Diogelu Oedolion

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mercher, 13 Tachwedd 2024, 10.00-12.00

Cyflwynydd: Yr Athro Michael Preston-Shoot 


Mae’r weminar hon ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr y mae eu rolau a’u cyfrifoldebau’n cynnwys diogelu oedolion sydd mewn perygl. Bydd y weminar yn tynnu ar yr hyn a ddysgwyd o 652 o adolygiadau diogelu oedolion yn Lloegr.

Bydd yn nodi’r hyn a ddysgwyd am y broses o gomisiynu, cynnal a chwblhau adolygiadau. Bydd yn cyflwyno canfyddiadau meintiol ac ansoddol am arferion diogelu effeithiol a diffygion. Bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i ystyried perthnasedd canfyddiadau'r adolygiad, yng nghyd-destun arferion diogelu oedolion yng Nghymru.