Partneriaeth Ranbarthol VAWDASV Canolbarth a Gorllewin Cymru
Gwybodaeth am y Panel Ymgynghorol Goroeswyr
Mae Partneriaeth Ranbarthol VAWDASV (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol) yn sefydlu Panel Ymgynghorol Goroeswyr ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Diben y panel yw dod â goroeswyr a lleisiau goroeswyr ynghyd, gydag asiantaethau statudol a darparu drwy gyfoeth o gyfleoedd i lywio a dylanwadu ar bolisi ac arfer yn y rhanbarth. Fel arbenigwyr â phrofiad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, bydd y panel yn darparu mecanwaith i sicrhau bod anghenion goroeswyr wrth wraidd cynllunio a chyflwyno gwasanaeth VAWDASV yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd eich mewnbwn yn llywio dyfodol Gwasanaethau VAWDASV yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, oherwydd ni allwn ei wneud heboch chi.
Beth byddwch chi’n ei wneud?
Bwriad y panel yw cael ei arwain gan oroeswyr, a fydd yn cael eu cefnogi i nodi blaenoriaethau a meysydd gwasanaeth/cyfathrebu/polisi ac ati VAWDASV maent am ganolbwyntio arnynt. Bydd nifer o gyfleoedd i oroeswyr gael eu gwahodd i gymryd rhan ynddynt fel cwblhau arolygon ac ymgynghori drwy grwpiau ffocws neu gyfweliadau sy’n cael eu harwain gan gyrff cyhoeddus. Bydd y rhain yn debygol o dyfu a chynyddu wrth i’r panel gael ei sefydlu.
Mae cymryd rhan yn y panel yn hyblyg a bydd sut mae unigolion yn cymryd rhan yn benderfyniad iddyn nhw. Bydd y dulliau’n cynnwys y canlynol i ddechrau:
- Mynychu cyfarfodydd panel rheolaidd bob 2-3 mis
- Cymryd rhan mewn grwpiau ffocws/digwyddiadau ymgynghori
- Cymryd rhan mewn arolygon
- Darparu mewnbwn/adborth ysgrifenedig
- Adborth 1 i 1
Disgwylir y bydd y dulliau a’r cyfleoedd hyn yn cael eu hadolygu a’u dylanwadu gan sut mae unigolion am gymryd rhan. Gymaint â phosib, caiff addasiadau rhesymol eu gwneud i gynyddu’r capasiti ar gyfer cymryd rhan i gynifer o bobl â phosib.
Pa gymorth y bydd er mwyn i chi gymryd rhan?
Treuliau: Byddwn yn talu treuliau rhesymol i chi ddod a chymryd rhan. Gallai hyn gynnwys cost gofal plant, treuliau teithio, cost galwadau ffôn neu’r defnydd o’r rhyngrwyd. Gofynnwch os oes gennych unrhyw anghenion neu gostau ychwanegol rydych yn meddwl y byddwch yn eu cronni fel y gallwn benderfynu sut orau y gallwn gefnogi gyda hyn.
Ymsefydlu: Cyn i chi gymryd rhan yn y panel am y tro cyntaf, byddwch yn derbyn sesiwn ymsefydlu lawn gyda thîm rhanbarthol VAWDASV er mwyn sicrhau eglurder disgwyliad, cymryd rhan ac i feithrin perthnasoedd. Byddwch yn derbyn llawlyfr defnyddiol yn nodi manylion sut mae’r panel yn gweithio, ei ddull a’i werthoedd a’n polisïau a’n gweithdrefnau gan gynnwys cyfrinachedd a diogelu.
Cymorth parhaus: Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi gymryd rhan yn y panel drwy wiriadau rheolaidd gyda’n tîm rhanbarthol VAWDASV.
Hyfforddiant: Darperir hyfforddiant i’r holl gyfranogwyr. I gychwyn, bydd hyn yn cynnwys ymwybyddiaeth o’r strwythur VAWDASV sydd ar wait hi gynllunio a chyflwyno strategaethau a gwasanaethau; rhannu pŵer; a mynediad i fagu hyder, gwydnwch a llesiant. Caiff hyfforddiant ychwanegol ei nodi yn seiliedig ar anghenion cyfranogwyr.
Sut i gymryd rhan:
I fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan yn y panel, cwblhewch y ffurflen gais fer hon:
https://www.smartsurvey.co.uk/s/F8KG1S/
Neu, gallwch gysylltu â thîm rhanbarthol VAWDASV yn unionyrchol drwy e-bostio mww.survivor.panel@gmail.com.
Unwaith y bydd eich mynegiant o ddiddordeb cychwynnol wedi cael ei dderbyn, bydd tîm rhanbarthol VAWDASV yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod ymhellach.
DIOLCH YN FAWR IAWN AM EICH DIDDORDEB YN Y PANEL.