Ynglŷn â'r Ymchwiliad
Bydd yr Ymchwiliad yn ymchwilio i sut y gallai sefydliadau yng Nghymru a Lloegr fod wedi methu diogelu plant rhag cam-drin rhywiol, a gwneud argymhellion er mwyn diogelu plant yn fwy effeithiol yn y dyfodol. Hyd yn hyn, dechreuwyd 13 archwiliad ac mae ein Gwrandawiadau Cyhoeddus a Phrosiect Ymchwil ar waith.
Y Prosiect Gwirionedd
Mae’r Prosiect Gwirionedd yn rhan hanfodol o waith yr Ymchwiliad, ac yn darparu i ddioddefwyr a goroeswyr o gam-drin plant yn rhywiol y cyfle i rannu eu profiadau heb gael eu profi neu herio.
Er ein bod ni’n ymchwilio methiannau sefydliadol yn hytrach nag achosion unigol o gam-drin yn rhywiol, mae profiadau dioddefwyr a goroeswyr yn ganolog i’n nhasg. Er mwyn deall y patrymau o fethiannau sefydliadol, mae’n rhain i ni glywed wrth y rheiny a wnaeth ddioddef o ganlyniad i’r methiannau hynny. Rydym yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr sydd yn dymuno helpu'r Ymchwiliad trwy rannu eu profiad o gam-drin yn rhywiol.
Gobeithiwn y byddech yn medru mynychu'r digwyddiad, lle gallem drafod y materion yma mewn mwy o fanylder ac eich diweddaru ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’r Ymchwiliad ar fin cyhoeddi adroddiad interim gydag argymhellion a gasglwyd hyn yn hyn a fydd yn parhau i weithio ar argymhellion terfynol er mwyn gwella diogelu ar gyfer cenhedloedd y dyfodol.