Hysbyseb Recriwtio Cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth

A ydych chi’n oedolyn sydd â phrofiad byw o wasanaethau diogelu, yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro neu Bowys a all gynnig persbectif gwybodus ar ansawdd a darpariaeth gwasanaethau diogelu yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru? Mae Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru (CWMPAS) am recriwtio cynrychiolydd defnyddwyr gwasanaeth i fod yn aelod o’i fwrdd gweithredol rhanbarthol diogelu oedolion. Ymarfer peilot dros gyfnod penodol o flwyddyn fydd hwn. Bydd eich rôl yn sicrhau bod persbectif a llais oedolion mewn perygl yn cael eu cynrychioli a’u hystyried ym musnes y bwrdd a bod eich profiad byw yn llywio amcanion a chynlluniau strategol.

Am fwy o fanylion gweler yr hysbyseb isod.

I drefnu trafodaeth anffurfiol gyda’r rheolwr diogelu rhanbarthol neu i ofyn am becyn gwybodaeth, anfonwch e-bost i CWMPAS@Pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch 01437775200. 

Hysbyseb Recriwtio Cynrychiolydd Defnyddwyr Gwasanaeth Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru (CWMPAS)