Rhoi gwybod am bryderon ynghylch oedolyn

Cadair olwyn
Beth gallaf ei wneud os byddaf yn poeni am oedolyn (unrhyw un dros 18 oed)?

Rhowch wybod i rywun a all helpu.

Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed neu oedolion sy'n wynebu risg o niwed.

Os byddwch yn credu bod oedolyn yn dioddef cam-drin neu drais, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych ei fod yn cael ei niweidio neu ei gam-drin, dywedwch wrth:

Gall yr asiantaethau hyn helpu.

Safeguarding Adults
MEWN ARGYFWNG DYLECH FFONIO 999 BOB AMSER

Ni ddylech geisio datrys y broblem eich hun, na chyhuddo camdriniwr honedig.

Peidiwch â phoeni y gallwch fod wedi gwneud camsyniad. Mae'n well dweud wrth rywun sy'n gwybod am amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed na dweud dim byd.

Help Woman
Beth os bydd oedolyn yn dweud wrthyf ei fod yn cael ei gam-drin?
  • Dangoswch eich bod yn gwrando a'ch bod yn cymryd y mater o ddifrif.
  • Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei glywed gan ddefnyddio'r union eiriau lle bo'n bosibl.
  • Esboniwch y bydd angen i chi rannu'r hyn rydych wedi ei glywed â rhywun sy'n gwybod am amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed.
  • Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu a rhowch wybod iddynt beth rydych chi'n ei wybod.
Beth y dylwn i ei wneud os byddaf yn poeni am ymddygiad rhywun tuag at oedolyn sy'n agored i niwed?
  • Peidiwch â diystyru eich pryderon na'i adael i rywun arall i weithredu.
  • Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu a rhowch wybod iddynt beth sy'n eich pryderu.
  • Â phwy y dylwn i gysylltu?

Os bydd gennych unrhyw amheuon am rannu pryderon neu roi gwybod amdanynt, peidiwch â meddwl beth os ydw i'n anghywir - meddyliwch beth os ydw i'n iawn!

FFURFLEN ATGYFEIRIO AML-ASIANTAETH

Gweler y ffurflen isod a gwybodaeth ategol ar sut i lenwi'r ffurflen.

CWMPAS Ffurflen Atgyfeirio Aml-Asiantaeth
CWMPAS Gwybodaeth Ategol

Os byddwch yn pryderu am ddiogelwch neu les oedolyn sy'n agored i niwed, cysylltwch â:

Sir Gaerfyrddin

  • Gwasanaeth IAA ar 0300 333 2222 trwy Minicom ar: 01554 756741 neu trwy SMS: 07892 345678 neu gallwch atgyfeirio trwy ein gwefan www.carmarthenshire.gov.uk 

Ceredigion

  • Yn ystod Oriau Gwaith: Y Ganolfan Gyswllt – Ffôn:  01545 574000, Ffacs: 01545 574002
  • E-bost: contact-socservs@ceredigion.gov.uk
  • Y tu hwnt i Oriau Gwaith: Tîm ar Ddyletswydd mewn Argyfwng – Ffôn: 0845 6015392

Sir Benfro

  • Yn ystod Oriau Gwaith:  Tîm Diogelu Oedolion - Ffôn: 01437 776056 (dim cyfleuster ffacs)
  • Ebost:  adult.protection.team@pembrokeshire.gov.uk  
  • Y tu hwnt i Oriau Gwaith: Tîm ar Ddyletswydd mewn Argyfwng – Ffôn:  08708 509508

[mae gwasanaeth ymateb meddygon ar alwad yn cymryd galwadau gwasanaethau cymdeithasol y tu hwnt i oriau]

Powys

People Direct Powys

Action on Elder Abuse

Mae Action on Elder Abuse (AEA) Cymru yn elusen arbenigol sy'n ymrwymedig i atal achosion o gam-drin 
yn erbyn pobl hŷn. Fel yr unig elusen yng Nghymru i ganolbwyntio ar achosion o gam-drin pobl hŷn yn unig, mae'r arbenigedd a'r profiad gennym i roi cymorth i ddioddefwyr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Rhif y Llinell Gymorth: 080 8808 8141  Gwefan: http://elderabuse.org.uk/cymru/

The Silver Line

Mae The Silver Line yn llinell gymorth 24 awr am ddim a sefydlwyd gan Esther Rantzen ac sy'n rhoi gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn.  Ar agor bob dydd o'r flwyddyn.

Rhif Ffôn: 0800 4 70 80 90

Gwefan: https://www.thesilverline.org.uk/ 

Y Samariaid

Siaradwch â'r Samariaid pryd bynnag y mynnwch, yn eich ffordd eich hun, heb iddo gael ei gofnodi - am beth bynnag sy'n eich poeni. Does dim rhaid i chi fod yn hunanladdol.

Rhif Ffôn: 116 123               E-bost: jo@samaritans.org   Gwefan: http://www.samaritans.org/