Ffilm gwrth fwlio yn arwain at addewidion
Daeth grŵp o bobl ifanc ac ystod o gynrychiolwyr dylanwadol at eu gilydd mewn digwyddiad ar ddydd Gwener 18 Tachwedd 2016 i drafod bwlio i nodi penllanw yr Wythnos Diogelu Cenedlaethol.
Fel rhan o’r digwyddiad a’i gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Aberaeron, dangoswyd ffilm yn ymdrin â bwlio, a grëwyd gan gynrychiolwyr ifanc o grŵp Sêr Saff, sef Bwrdd Iau Diogelu Plant Ceredigion. Mae aelodau Sêr Saff wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn creu’r darn, gyda chymorth gan Gwmni Theatr Arad Goch, er mwyn codi ymwybyddiaeth am bwnc o’u dewis eu hunain. Mae Grwp Sêr Saff yn cael ei hwyluso gan Tros Gynnal Plant sydd yn darparu gwasanaethau eiriolaeth ar draws gorllewin a chanolbarth Cymru.
Eglurodd y grŵp: "Cawsom ni lawer o hwyl yn gweithio ar y ffilm. Roedd gallu defnyddio'r offer ffilmio a golygu yn help mawr inni fedru greu rywbeth sydd wir yn cyfleu neges gwrth-fwlio gyda'r potensial o helpu nifer fawr o bobl."
Dywedodd Sarah Durrant, Rheolwr Gwasanaeth Tros Gynnal Plant: “Gweithiodd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y ffilm yma’n galed iawn. Roedden nhw’n ymwneud â phob agwedd o wneud y ffilm a oedd yn cynnig cyfleoedd a phrofiadau newydd. Gan ei fod wedi ei gynhyrchu yng Ngheredigion gan bobl ifanc lleol, gobeithiwn y bydd gwylwyr ifanc ledled y sir yn gallu uniaethu yn hawdd â’r darn.”
Ychwanegodd: “Mae’r ffilm yn hynod bwerus ac yn dangos neges gwrth-fwlio gref, hyd yn oed heb ddefnyddio deialog, gan i’r bobl ifanc wneud y penderfyniad hynny wrth iddynt deimlo y byddai’n fwy pwerus fel hyn. Gobaith y plant a gymerodd ran a Tros Gynnal Plant yw y bydd cyn gymaint o phobl ifanc a sy’n bosib ar draws Ceredigion yn cael cyfle i weld y ffilm.”
Llwyddodd y ffilm i ennyn trafodaeth ymysg cynrychiolwyr o wasanaethau perthnasol wrth iddyn nhw amlinellu sut y gallent ymrwymo i weithredu yn erbyn bwlio.
Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet dros Ofal a Sicrwydd: “Hanfod yr Wythnos Ddiogelu yw i wneud i ni gofio bod dyletswydd ar bawb i sicrhau diogelwch a llesiant plant a phobl fregus ein cymdeithas. Rwy’n falch bod Ceredigion yn cydweithio’n agos ac yn llwyddiannus gyda’r siroedd cyfagos trwy’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol CYSUR.”
Ychwanegodd: “Hefyd, wrth gwrs, mae’r mewnbwn gan y cynrychiolwyr ifanc sydd yn eistedd ar y Bwrdd Iau Diogelu Plant yng Ngheredigion, sef Sêr Saff, yn eithriadol o werthfawr, fel y dengys gan eu ffilm gwrth fwlio pwerus. Roedd y drafodaeth aeddfed a chynhyrchiol a fu yn dilyn y dangosiad hwnnw yn galonogol iawn, ac edrychaf ymlaen i weld y cydweithio pellach rhwng yr asiantaethau perthnasol i gyd er budd sicrhau diogelwch plant a phobl fregus yn ein cymdeithas.”
Gobeithir y gellir gwneud defnydd ehangach o’r ffilm yng Ngheredigion a thu hwnt wrth addysgu plant â phobl sydd mewn cyswllt â phlant fel eu gilydd i wrthod bwlio yn ei holl ffurfiau.
Pwrpas yr Wythnos Diogelu Genedlaethol yw i godi ymwybyddiaeth am rôl pawb wrth ddiogelu plant ac oedolion bregus, a’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’w defnyddio.
LLUN: (Ch-Dd)
Elfed Hopkins - Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Sir Ceredigion;
Emma Jones – Eiriolwr Tros Gynnal Plant;
Mia Howells – Aelod o Sêr Saff;
Hefin Bragg – Aelod o Sêr Saff;
Cynghorydd Hag Harris – Aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, Plant a’r Bartneriaeth Pobl Ifanc;
Peter Westbury – Aelod o Sêr Saff;
Matthew Brown – Pennaeth Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion.