CYSUR 6 2021 Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig
Heddiw, mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig, CYSUR 6 2021, yn ymwneud â dau blentyn a oedd yn byw ym Mhowys.
Cynhaliwyd yr Adolygiad yn unol â deddfwriaeth statudol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau cysylltiedig Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant (Llywodraeth Cymru, 2016).
Adroddiad CYSUR 6 2021
Briffio 7 Munud CYSUR 6 2021
Cefnogaeth ar gael
Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o’r materion yn yr adroddiad hwn, mae gwasanaethau ar gael a all eich helpu.
New Pathways
Mae New Pathways yn cynnig cymorth arbenigol i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan dreisio, ymosodiad rhywiol neu gam-drin. Maent yn cynnig gwasanaethau ar-lein a dros y ffôn yn ogystal â chanolfannau ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb ar draws de, gorllewin a chanolbarth Cymru.
I gysylltu â New Pathways am gymorth neu i gael eu gwybodaeth a’u hadnoddau, ewch i’w gwefan neu ffoniwch 01685379390.
Llinell gymorth y GIG
Mae cymorth iechyd meddwl brys ar gael 24/7 yng Nghymru drwy linell gymorth benodedig y GIG. Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, ffoniwch GIG 111 a dewiswch opsiwn 2 i’ch cysylltu’n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl yn eich ardal. Mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych chi unrhyw gredyd ar ôl. Mae rhestr lawn o linellau cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim, yn y daflen Cefnogaeth Iechyd Meddwl yn y ddolen isod.
Childline
Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc, gallwch chi gysylltu â Childline i siarad am unrhyw beth sy’n peri trafferth i chi. Ffoniwch am ddim ar 0800 1111 neu ewch i'w gwefan.
Y Samariaid
Os ydych chi angen siarad â rhywun, gallwch chi ffonio'r Samariaid ar 116 123, neu ewch i’w gwefan am ffyrdd eraill o gysylltu.
Dolen i’r wefan https://www.samaritans.org/wales/how-we-can-help/contact-samaritan/
Gwasanaethau pellach sydd ar gael
Mae’r ymgyrch ’When You are Ready’ yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau y gall unrhyw un sy’n barod i ofyn am gymorth ac sydd wedi cael eu cam-drin neu sydd wedi dioddef camfanteisio yn blentyn gael mynediad iddynt.
Dolen i’r wefan When You Are Ready – cyngor a chymorth