Heddiw mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Oedolion Estynedig (Hybrid) Parthed: CWMPAS 2 2020 ar y cyd â'r Adolygiad Ymarfer Plant estynedig, CYSUR 4 2020 ynghylch plentyn ac oedolyn ifanc bregus sy'n byw yng Ngheredigion.
Cynhaliwyd yr Adolygiad yn unol â deddfwriaeth statudol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'r canllawiau cysylltiedig Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2/3 – Adolygiadau Ymarfer Plant/Adolygiadau Ymarfer Oedolion (Llywodraeth Cymru, 2016).