CWMPAS 1 2022 Adolygiad Ymarfer Oedolion Cryno

Heddiw mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Cryno o Ymarfer Oedolion, CWMPAS 1 2022, mewn perthynas ag oedolyn ym Mhowys a fu farw yn drist yn 2022.

Mae'r Adolygiad wedi'i gynnal yn unol â deddfwriaeth statudol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a'r canllawiau cysylltiedig Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 3 – Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (Llywodraeth Cymru, 2016).