Bydd adolygiad o hunanladdiadau tebygol ymhlith plant ac oedolion ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi'i gyflwyno mewn pedwar digwyddiad ar draws y rhanbarth.
Cafodd yr adolygiad ei baratoi gan Dr Tom Slater o adnodd Ymchwil Cascade a Phrifysgol Caerdydd gyda’r bwriad o gynyddu dealltwriaeth asiantaethau proffesiynol o’r broblem ac archwilio beth allai gael eu gwneud er mwyn rhwystro marwolaethau yn y dyfodol. Cafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Bydd Dr Slater yn cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad i grŵp aml asiantaeth o ymarferwyr proffesiynol o bob rhan o’r ardal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr iechyd, swyddogion yr heddlu ac athrawon.
Dywedodd Dr Slater: “Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n broblem gymhleth ac amlweddog sy’n galw am ffyrdd lluosog o ymyriadau ar ystod o wahanol lefelau.
“Drwy gynnal adolygiad ar hunanladdiadau tebygol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae modd i ni ddysgu mwy am y pwnc anodd hwn.
“Mae canfyddiadau’r ymchwil yn darparu cyfle i adnabod ymarfer da mewn ambell faes a gall gynorthwyo gyda dulliau gwaith ac ymyriadau’r dyfodol.”
Mae’r adolygiad yn dynodi ffactorau risg ar gyfer plant a phobl ifanc gan gynnwys:
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)
- Profedigaeth
- Dylanwad y cyfryngau cymdeithasol a grŵp cyfoedion
- Cam-drin sylweddau a phroblemau iechyd meddwl
Mae’r adolygiad yn dynodi ambell strategaeth bwysig ar gyfer ymarferwyr proffesiynol er mwyn rhwystro a lleihau’r niferoedd o blant a phobl ifanc sy’n cymryd eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys:
- darparu hyfforddiant addas a chefnogaeth ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn ogystal ag asiantaethau gwirfoddol anstatudol.
- pwysigrwydd sicrhau fod gwybodaeth ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, eu teuluoedd a’u hymarferwyr proffesiynol ynghylch lle allant gyrchu cefnogaeth a gwasanaethau ddylai gael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach er mwyn hybu iechyd meddwl a lles sy’n gadarnhaol.
Adolygiad desg o achosion tebygol o hunanladdiad ymhlith plant ac oedolion ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru - Adroddiad Cryno
Mae copi pdf o'r PowerPoint a gyflwynwyd gan Dr Slater ar gael yma.
Ffynonellau cefnogaeth:
Mae llinell gymorth y Samariaid ar gael pedair awr ar hugain y dydd. Ffoniwch 116 123 (yn rhad ac am ddim) neu e-bostiwch jo@samaritans.org.
Nod y DPJ Foundation yw dileu'r gwarth sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl a darparu gwasanaethau sy'n cefnogi'r rheiny mewn cymunedau gwledig. www.thedpjfoundation.com.