Y cymorth cywir ar yr amser cywir i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Llun 11 Tachwedd 2024, 10.00-12.00

Cyflwynydd: Paula McCreary

Sesiwn rhannu gwybodaeth a hyrwyddo i gynnwys rhagolwg o ddogfen cymorth trothwy a chymhwysedd newydd CYSUR a cham nesaf yr hyfforddiant diogelu amlasiantaeth, sy’n cael ei ddatblygu i gefnogi ymarferwyr yn eu rolau diogelu, sy’n cynnwys gweithio gyda throthwyon ac asesu risg o niwed arwyddocaol.


Nodau:
1. Ystyried themâu sy’n dod i’r amlwg o hyfforddiant chwilfrydedd proffesiynol, sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru
2. Nodi cysylltiadau rhwng trothwyon a themâu sy'n codi dro ar ôl tro o adolygiadau ymarfer
3. Cyflwyniad i'r ddogfen drothwy newydd
4. Trafod beth sy’n dod nesaf yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, gan gynnwys rhagolwg a chyflwyniad i hyfforddiant amlasiantaeth “y cymorth cywir ar yr adeg cywir”