Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ar y cyd â phartneriaid y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, wedi cynnal Fforwm Proffesiynol Amlasiantaethol ynglŷn â digwyddiad a fu mewn ysgol leol ym mis Ebrill 2024.
Comisiynwyd adolygydd annibynnol i ymgymryd â'r Fforwm Proffesiynol Amlasiantaethol, a chytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi i rannu'r hyn a ddysgwyd.
Felly, mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad ar ran yr asiantaethau sydd wedi ymgymryd â'r Fforwm Proffesiynol Amlasiantaethol.
Mae’r adroddiad llawn ar gael isod.