CYSUR 3 2021 Adolygiad Ymarfer Plant Cryno

Heddiw, mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad am yr Adolygiad Ymarfer Plant Cryno, CYSUR 3 2021, mewn perthynas â merch 16 oed a oedd yn byw ym Mhowys.

Cynhaliwyd yr Adolygiad yn unol â’r ddeddfwriaeth statudol a bennir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau cysylltiedig, Cydweithio i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2 – Adolygiad Ymarfer Plant (Llywodraeth Cymru 2016).