Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru
RHOI GWYBOD AM BRYDERON YNGHYLCH OEDOLYN
Beth gallaf ei wneud os byddaf yn poeni am oedolyn (unrhyw un dros 18 oed)?
Rhowch wybod i rywun a all helpu.
Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed neu oedolion sy'n wynebu risg o niwed.
Os byddwch yn credu bod oedolyn yn dioddef cam-drin neu drais, neu os bydd rhywun yn dweud wrthych ei fod yn cael ei niweidio neu ei gam-drin, dywedwch wrth:
- Y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y rhifau isod:
- Yr Heddlu ar 101
- Action on Elder Abuse Cymru ar 080 8808 8141 neu
- un o'r sefydliadau isod.
Gall yr asiantaethau hyn helpu.
Mewn argyfwng dylech ffonio 999 bob amser.
Ni ddylech geisio datrys y broblem eich hun, na chyhuddo camdriniwr honedig.
Peidiwch â phoeni y gallwch fod wedi gwneud camsyniad. Mae'n well dweud wrth rywun sy'n gwybod am amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed na dweud dim byd.
Beth os bydd oedolyn yn dweud wrthyf ei fod yn cael ei gam-drin?
- Dangoswch eich bod yn gwrando a'ch bod yn cymryd y mater o ddifrif.
- Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei glywed gan ddefnyddio'r union eiriau lle bo'n bosibl.
- Esboniwch y bydd angen i chi rannu'r hyn rydych wedi ei glywed â rhywun sy'n gwybod am amddiffyn oedolion sy'n agored i niwed.
- Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu a rhowch wybod iddynt beth rydych chi'n ei wybod.
Beth y dylwn i ei wneud os byddaf yn poeni am ymddygiad rhywun tuag at oedolyn sy'n agored i niwed?
- Peidiwch â diystyru eich pryderon na'i adael i rywun arall i weithredu.
- Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu a rhowch wybod iddynt beth sy'n eich pryderu.
- Â phwy y dylwn i gysylltu?
Os bydd gennych unrhyw amheuon am rannu pryderon neu roi gwybod amdanynt, Peidiwch â meddwl beth os ydw i'n Anghywir - meddyliwch beth os ydw i'n Iawn!
FFURFLEN ATGYFEIRIO AML-ASIANTAETH
Gweler y ffurflen isod a gwybodaeth ategol ar sut i lenwi'r ffurflen.
- CWMPAS Ffurflen Atgyfeirio Aml-Asiantaeth (FAA) - PILOT Medi 2017
- CWMPAS Gwybodaeth Ategol
Os byddwch yn pryderu am ddiogelwch neu les oedolyn sy'n agored i niwed, cysylltwch â:
SIR GAERFYRDDIN:
|
CEREDIGION:
|
SIR BENFRO:
[mae gwasanaeth ymateb meddygon ar alwad yn cymryd galwadau gwasanaethau cymdeithasol y tu hwnt i oriau] |
POWYS: People Direct Powys
|
Action on Elder Abuse
Mae Action on Elder Abuse (AEA) Cymru yn elusen arbenigol sy'n ymrwymedig i atal achosion o gam-drin
yn erbyn pobl hŷn. Fel yr unig elusen yng Nghymru i ganolbwyntio ar achosion o gam-drin pobl hŷn yn unig, mae'r arbenigedd a'r profiad gennym i roi cymorth i ddioddefwyr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Rhif y Llinell Gymorth: 080 8808 8141 Gwefan: http://elderabuse.org.uk/cymru/
The Silver Line
Mae The Silver Line yn llinell gymorth 24 awr am ddim a sefydlwyd gan Esther Rantzen ac sy'n rhoi gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn. Ar agor bob dydd o'r flwyddyn.
Rhif Ffôn: 0800 4 70 80 90
Gwefan: https://www.thesilverline.org.uk/
Y Samariaid
Siaradwch â'r Samariaid pryd bynnag y mynnwch, yn eich ffordd eich hun, heb iddo gael ei gofnodi - am beth bynnag sy'n eich poeni. Does dim rhaid i chi fod yn hunanladdol.
Rhif Ffôn: 116 123 E-bost: jo@samaritans.org Gwefan: http://www.samaritans.org/
Diweddarwyd ar 3/8/17